Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Croeso i'r wefan Colocwiwm YACOCC, 2017

Ymchwil a Chloddiadau Diweddar yng Nghymru, Dydd Sadwrn 7 Hydref – Dydd Sul 8 Hydref 2017

Mae’r grŵp hwn yn dod â phawb sydd â diddordeb yn archaeoleg Cymru c. AD 400–1100 at ei gilydd. Ei nod yw hyrwyddo ymchwil yn ymwneud â Chymru’r oesoedd canol cynnar ac mae’n cyfarfod bob yn ail flwyddyn mewn rhannau gwahanol o Gymru i drafod projectau newydd, cloddiadau diweddar a darganfyddiadau eraill. Cafodd ei gynnal y tro diwethaf yn Nhrallwng yn 2015. I ddathlu pen-blwydd y grŵp yn 25, cynhaliwyd cynhadledd amlddisgyblaethol ar 'Archaeoleg Cymru’r Oesoedd Canol Cynnar' ym Mangor yn 2009. I gael newyddion am gyfarfodydd, digwyddiadau a darganfyddiadau, chwiliwch amdanom ar Facebook.

Trefnwyr y Colocwiwm

  • Yr Athro Nancy Edwards (Ysgol Hanes ac Archaeoleg, Prifysgol Bangor)
  • Marion Shiner (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed/Adran Archaeoleg, Prifysgol Sheffield)

Noddir y Colloqwiwm gan:

Site footer